Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Medi 2015

Amser: 13.30
 


(285)v2

<AI1>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

(15 munud)

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(15 munud)

Gweld y Cwestiynau

 

</AI3>

<AI4>

4       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

NDM5825 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at y ffaith bod ystadegau diweddar y Local Data Company yn nodi bod 15.6 y cant o siopau yn wag yn nhrefi Cymru, sef y gyfradd uchaf yn y DU o bell ffordd;

 

2. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo strydoedd mawr a chanol trefi, helpu busnesau bach a sicrhau bod swyddi'n cael eu creu; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried o ddifrif y cynigion a amlinellir yn nogfennau'r Ceidwadwyr Cymreig, A Vision for the Welsh High Street' ac 'Invest Wales', a fyddai'n helpu busnesau bach a chanolig ac yn adfywio ein strydoedd mawr. 

 

'A Vision for the Welsh High Street' (Saesneg yn unig)

 

'Invest Wales' (Saesneg yn unig)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r stryd fawr drwy sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau trafnidiaeth llesol yn wirioneddol hygyrch; cymhwyso ardrethi busnes i feysydd parcio mewn unedau adwerthu ar gyrion trefi; ac annog awdurdodau lleol i dreialu parcio am ddim cyfyngedig i gefnogi strydoedd mawr sy'n cael trafferthion.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i weithio ar arallgyfeirio eu strydoedd mawr er mwyn cynyddu nifer y bobl sy'n eu defnyddio.

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ystod eang o fesurau i helpu busnesau bach, gan gynnwys y rhai sydd ar y stryd fawr, a fydd yn hwyluso mynediad at gyllid ac yn ymestyn rhyddhad ardrethi busnes.

</AI4>

<AI5>

5       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

NDM5827 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cefnogi cyfryngau cryf fel elfen annatod o ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;

 

2. Yn cydnabod effaith sylweddol y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol ar economi Cymru;

 

3. Yn pryderu am gynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016, gyda golwg arbennig ar ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C cryf;

 

4. Yn galw ar ei bwyllgorau i ymchwilio i newidiadau sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei swyddogaethau democrataidd yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a

 

5. Yn ailsefydlu is-bwyllgor darlledu er mwyn ffurfio barn a safbwynt ar adnewyddu siarter y BBC cyn gynted ag y bo modd.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol S4C.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu'r ffaith bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r adolygiad o siarter y BBC.

</AI5>

<AI6>

6       Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

(60 munud)

NDM5826 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Rhaglen Cefnogi Pobl, sy'n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i bobl fregus fyw'n annibynnol yn eu cymunedau ac i roi terfyn ar allgáu cymdeithasol.

 

2. Yn nodi bod y rhaglen wedi cynorthwyo dros 60,000 o bobl yng Nghymru y llynedd, gan gynnwys pobl ddigartref, pobl mewn perygl o drais yn y cartref, pobl hŷn, pobl anabl neu bobl sydd ag anghenion cymhleth.

 

3. Yn nodi y torrwyd cyllid y Rhaglen Cefnogi Pobl 8.3 y cant mewn termau real rhwng 2014-15 a 2015-16.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) adolygu gofynion gweinyddu a monitro'r Rhaglen Cefnogi Pobl i sicrhau bod cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer darpariaeth rheng flaen; a

 

b) amddiffyn y Grant Cefnogi Pobl o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn lleihau pwysau diangen ar wasanaethau statudol megis iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac yr amcangyfrifir y gall pob £1 a fuddsoddir yn y rhaglen hon arbed hyd at £2.30 i bwrs y wlad.

</AI6>

<AI7>

7       Cyfnod pleidleisio

 

</AI7>

<AI8>

8       Dadl Fer - Tynnwyd yn ôl

(0 munud)

NDM5824 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Gwneud yn iawn am anghyfiawnder hanesyddol: achos Linda Lewis

 

Galw am ymchwiliad newydd i achos Linda Lewis, mam a gyhuddwyd ar gam.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 29 Medi 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>